TAMAR ELUNED WILLIAMS
Adrodd Straeon | Ysgrifennu | Gweithdai



Salome Francis Photography / Sinfonia Cymru
AMDANAF I
Rydw i’n storïwr proffesiynol sy’n gweithio yn y traddodiad llafar Cymraeg. Rwy'n adrodd straeon yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan weithio gyda chasgliad eang o fytholeg, chwedlau, a chwedlau Celtaidd, ochr yn ochr â straeon o bob rhan o’r byd. Rwy’n gweithio gyda stori mewn llawer o wahanol ffyrdd: eu hadrodd ar y cof mewn ysgolion, gwyliau, amgueddfeydd a theatrau, gan greu sioeau newydd ar gyfer oedolion a theuluoedd, cynnal gweithdai adrodd straeon, ac ysgrifennu a chyfarwyddo ar gyfer y theatr.
Rydw i'n arweinydd gweithdai hynod brofiadol, yn cynnal gweithdai egnïol a chwareus mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol sy’n hybu creadigrwydd, hyder, a sgiliau cyfathrebu.

I gael gwybod mwy am fy ngwaith, neu i fy mwcio ar gyfer digwyddiad, cliciwch yma os gwelwch yn dda.
CEFNDIR
Rwyf wedi gweithio fel storïwr llawrydd ers dros ddegawd, yn hwyluso gweithdai a pherfformiadau mewn ysgolion, lleoliadau cymunedol, theatrau, a gwyliau gydag ystod o gynulleidfaoedd.
Mae gen i BA dosbarth cyntaf o Brifysgol Birmingham mewn Drama a Chelfyddydau'r Theatr a gradd Meistr mewn Cyfarwyddo Theatr, gyda ffocws ar adrodd straeon ar y llwyfan. Gweithiais fel Cynhyrchydd Ymgysylltu llawrydd i Ŵyl Adrodd Straeon Rhyngwladol Beyond the Border ac roeddwn yn un o aelodau panel gwreiddiol Chwedl, rhwydwaith adrodd straeon merched Cymru.
Rwy’n rhan o grŵp llywio Casglu, gofod rhwydweithio a rhannu sgiliau rheolaidd i bobl sy’n gweithio o fewn y traddodiad llafar, a chynrychiolais Gymru yng Ngŵyl Chwedleua Montréal yn 2023, a Chynhadledd y Federation of European Storytelling yn 2024.
Yn 2016, ennillais y Wobr Esyllt Harker gan Beyond the Border am storïwraig sy’n dod i’r amlwg o Gymru, a Gwobr Storïwr Ifanc y Flwyddyn y DU yn 2013, ochr yn ochr â'r Wobr Gymreig a Gwobr y Bobl drwy bleidlais y gynulleidfa.
Mae fy mhartneriaethau a chydweithrediadau yn y gorffennol wedi cynnwys: Sinfonia Cymru, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru, Gŵyl Chwedlau Alden Biesen, Festival at the Edge, a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ar hyn o bryd, rydw i'n Artist Cyswllt gydag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.


Arwyddwch lan i fy rhestr e-bost i gael cylchlythyr misol a diweddariadau am fy ngwaith.
"I storïwr, dylai llais fod yn beth o bŵer a harddwch. Mae Tamar Williams yn symud yn ddi-dor rhwng siarad a chanu i greu hud."
Taffy Thomas, Storyteller Laureate

Perfformiadau unigol i ddod
Dydd Sadwrn 1 Mawrth: Chwedlau o Gymru
11yb Neuadd y Dref Maesteg, 2yh Ty Bryngarw
Dydd Iau 6 Mawrth: Chwedleua Dydd y Llyfr
Amseroedd gwahanol, Trago Mills
Dydd Sadwrn 5 Ebrill: Sleepwalking Along the Severn
7yh Severnside Press, Newnham