TAMAR ELUNED WILLIAMS
Rwy’n defnyddio chwedleua fel strategaeth er mwyn datblygu sgiliau cyfathrebu, hyder, a chreadigrwydd ar draws pob oedran a phob cwricwlwm. Rydw i wedi gweithio gyda dros 50 o ysgolion ar draws y wlad yn cyflwyno prosiectau tymor hir a thymor byr sydd ag adrodd straeon yn ganolog iddynt. Os ydych chi'n astudio cyfnod hanesyddol penodol, pwnc, neu thema, byddaf yn cynhyrchu sesiynau adrodd stori rhyngweithiol a fydd yn herio plant a phobl ifanc i ymestyn eu sgiliau, gan gryfhau eu gwybodaeth o strwythurau naratif, archwilio eu dealltwriaeth o ba swyddogaeth sydd gan stori yn y gymdeithas gyfoes ac yn cwpla gyda'u perfformiadau adrodd straeon eu hunain.
Mae fy ngweithdai yn rhyngweithiol, yn chwareus ac yn llawn hwyl, ac yn sicr i gael eich dosbarth yn sefyll ar eu traed, meddwl yn greadigol, a gwneud pethau nad oeddech yn meddwl y gallen nhw eu gwneud.
Gall fy sesiynau adrodd straeon dwyieithog hefyd fod yn rhan o Gwricwlwm Cymreig ysgolion. Mae pob gweithdy ar gael yn y Gymraeg, Saesneg neu'n ddwyieithog.
Mae gweithdai yn y gorffennol wedi cynnwys y pynciau canlynol: Mytholeg Norsaidd, Macsen Wledig/y Rhufeiniaid, Chwedlau a Chwedloniaeth Gymreig, Adrodd Storïau Personol/Hunangofiannol, Adrodd Storïau Amgylcheddol a Natur.
Tystiolaeth:
"Fe wnaeth y plant fwynhau yn fawr." - Ysgol Gynradd Llanmartin
"Cafodd y plant eu swyno gan stori'r Ddraig Goch a'r Ddraig Wen."
"Profiad anhygoel i Flwyddyn 5. Gweithdy adrodd straeon gyda'r hynod dalentog Tamar Williams." - Ysgol Gynradd Llansanwyr
"Gwych! Deniadol iawn i'r plant." — Christ Church C of E