top of page

​

​

Cyfarwyddwr, Y Mabinogi

Struts & Frets

2022

​

Wedi'i dyfeisio gydag actorion, pypedwyr, ac actor-gerddorion, aeth Y Mabinogi - ailadroddiad dwyieithog o'r Pedair Cainc i ysgolion - ar daith o amgylch cestyll CADW yn Hydref 2022.

​

​

​

​

FdLYUI7WAAIsG9G.jpg
FdLYQL8WYAAHKmn.jpg

Theatr

Screenshot 2023-01-07 at 15.32.07.png

Awdur, Huno

The Other Room

2022

​

"Nid ein gwaith ni oedd trwsio'r byd. Dim ond i fyw ynddo."

 

Datblygwyd Huno yn The Other Room yng Nghaerdydd a chwblhau rediad llawn ym mis Gorffennaf 2022. Mae’n plethu Cymraeg a Saesneg, myth a realiti, yr epig a’r personol, wrth i ni wylio bywyd un fenyw a ddaliwyd yng nghalon ymdrechion dynion.

​

​

​

​

​

​

​

Gwlad y Ddraig / Land of the Dragon

Arthur the Bear King / Yr Arth Frenin

Ceridwen

[ar gyfer PuppetSoup ]

 

Rhwng 2015 a 2019, roeddwn yn gydweithredwr rheolaidd gyda cwmni pypedwaith o Y Fenni, PuppetSoup. Perfformiais fel pypedwr a storïwr, gan gynnwys yng Ngwyl Ymylol Caeredin, dyfeisio a chreu sioeau newydd ar gyfer teithiau cenedlaethol. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys datblygu sgriptiau dwyieithog, llwyfannu, helpu i greu a chynnal pypedau, a chydweithio â thîm amrywiol i ddatblygu gwaith newydd ar gyfer perfformiad gydag amser a chyllidebau cyfyngedig. Gyda PuppetSoup, teithiais yn helaeth o amgylch Cymru i leoliadau gwledig ac i leoliadau eraill ledled y DU.

 

morgana.jpg
17857063042277978.jpg

Macbeth & A Midsummer Night's Dream

2018

[UX Education, Xi'an, Tseina]

 

Mewn cydweithrediad â Darius Nash, gweithiais yn agos gydag ysgol ryngwladol a UX Education / Camp Your Life i ddatblygu rhaglen mis o hyd o ddyfeisio theatr, adrodd straeon, a gweithdai Shakespeare yn Xi'an, yn weithio gyda phlant a phobl ifanc 7-18 oed. Gorffennodd y ddwy garfan gyda pherfformiadau - A Midsummer Night's Dream a Macbeth - a gyfarwyddwyd gan Darius a finnau. Ar hyn o bryd rwy'n cydweithredu â'r cwmni eto i gyflwyno gweithdai adrodd straeon arlein yn archwilio straeon tylwyth teg Tsieineaidd ac Ewropeaidd gyda phlant.

bottom of page