TAMAR ELUNED WILLIAMS

Not Maid, Nor Widow, Nor Wife [uniaith Saesneg]
Yn bwcio 2024
Perfformiad syrfdanol drwy stori a chân gan Tamar Eluned Williams a Morwen Williams.
"Nhw bob amser sy'n ysgrifennu'r caneuon ..."
Magwyd y chwiorydd Tamar a Morwen yn canu caneuon gwerin. Ymhlith y siantïau môr a'r caneuon protest, y cynhaeafau a'r boreau Mai, roedd yna lawer o faledi llofruddiaeth am ferched. Omie Wise, Little Sadie, Maria Marten ... rhai, menywod a oedd yn byw go-iawn, rhai wedi'u creu i gyd-fynd â thuedd newydd erchyll. Yn dwyn ysbrydoliaeth o’r neuaddau cerddoriaeth Fictoraidd a pherfformiad gair llafar cyfoes, gan blethu chwedleua a chân wreiddiol, mae Not Maid, Nor Widow, Nor Wife yn rhoi cyfle i ferched coll y baledi llofruddiaeth adrodd eu straeon eu hunain.
12+