TAMAR ELUNED WILLIAMS
Rwy’n gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau celfyddydol, cwmniau a gwyliau i ddatblygu comisiynau adrodd straeon ac ysgrifennu, yn ogystal â phrosiectau celfyddydol gyda grwpiau cymunedol. Isod mae esiamplau o rai prosiectau o'r gorffennol. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda mi, cysylltwch i drafod eich prosiect.
Sinfonia Cymru ac Ysgolion Powys
Comisiwn wrthi'n cael ei ddatblygu 2023.
Llwybrau Stori Cyngor Caerdydd
2021-22
Mewn cydweithrediad â Child-Friendly Cardiff, datblygais wyth llwybr stori, wedi eu recordio yn Gymraeg a Saesneg, mewn parciau amrywiol o amgylch dinas Caerdydd. Ysbrydolwyd y straeon gan dirwedd, llên gwerin, ac hanes pob lleoliad unigryw, a'u datblygu'n benodol i annog ymgysylltiad chwareus ac hwyl gyda’r stori a llwybrau’r parc, ochr yn ochr â darganfod mannau cyfrinachol mewn tirnodau adnabyddus yng Nghaerdydd. Dewch o hyd i fwy o fanylion yma.
Llwybrau / Pathways
2020-21
Buddsoddwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, datblygodd Llwybrau / Pathways gyfres o recordiadau podlediad i'w wrando arnynt wrth gerdded llwybrau penodol o amgylch dinas Caerdydd. Fel rhan o ddatblygdiad diweddarach o'r prosiect, ymgasglwyd storïwyr a llwybrau o bob rhan o Gymru. Dewch o hyd i recordiadau llawn yma.
The Library of Life / Llyfrgell Bywyd
[Head4Arts a PETRA Publishing]
2020
Ar ddiwedd yr enfys, mae un ferch fach arbennig yn gofalu am Lyfrgell anarferol iawn. Ei gwaith hi yw gwylio dros y llyfrau sy'n cadw'r byd mewn cydbwysedd. Dyma stori'r hyn sy'n digwydd pan mae hi'n sylwi bod y llyfrgell i'w gweld yn newid – mae llyfrau'n diflannu ac adrannau'n lleihau ….i gyd ar wahân i un. Mae rhywbeth ofnadwy yn digwydd i’r llyfrgell, yn amharu ar y cydbwysedd, ac mae angen iddi hi ddod o hyd i help….
Datblygwyd Llyfrgell Bywyd yn gyntaf fel perfformiad stori ar gyfer Awr Ddaear 2020. Mae'r llyfr ar gael yn Gymraeg neu Saesneg, gyda darluniau gan Andy O'Rourke, ar gyfer PETRA Publishing.
The Girl Who Wouldn't Give Up / Y Ferch Na Fyddai'n Ildio Byth
[Green Squirrel]
2019-20
Dan gomisiwn gan Green Squirrel, datblygais stori newydd yn seiliedig ar chwedl yr Afanc, wedi’i hysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg, darn perfformiad dwyieithog 20 munud o hyd, a sgript ffilm am raghysbyseb byr ar gyfer y prosiect. Rhwng mis Tachwedd 2019 a mis Chwefror 2020, perfformiwyd y stori ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac ar-lein, gan ddarparu'r ysbrydoliaeth ar gyfer prosiect celfyddydol ledled Caerdydd yn seiliedig ar themâu cydnerthedd cymunedol a newid hinsawdd.
Comisiynau



