TAMAR ELUNED WILLIAMS
Mali a'r Môr / Mali & the Sea
(gyda Naomi Doyle)
Yn teithio 2025
40mun, yn addas ar gyfer 3+ oed
Mewn a mas, mewn a mas: mae’r môr yn dod â phethau ac yn cymryd pethau i ffwrdd. Mae Mali yn gwybod hyn. Mae ei chartref annwyl ar yr ynys yn llawn trysorau wedi’u gadael gan y llanw. Bob dydd, mae Mali, gyda’i doli fach Megan wrth ei hochr, yn gwylio’r môr: yn aros i gwch pysgota Dada ddod adref. Ond un diwrnod, mae’r tonnau’n troi’n stormus, a dydy cwch Dada ddim yn ymddangos. A gall Mali a Megan ddod o hyd i ffordd o ddod ag ef adref? Stori am ryfeddodau’r moroedd mawr i bobl bach yw hon, wedi’i hadrodd yn Gymraeg a Saesneg, trwy gân, chwedleua, a phypedwaith.
Yn seiliedig ar lyfrau poblogaidd “Molly” gan Malachy Doyle, ar gyfer plant 3+.
Llun: Andrew Whitson / Graffeg
Fe fydd Mali a'r Môr yn teithio o amgylch llyfrgelloedd o Chwefror i Orffennaf 2025.
Plîs edrychwch am ddyddiadau sydd wedi'u cadarnhau yn achos i chi. Mae angen cysylltu â'r llyfrgelloedd yn uniongyrchol er mwyn bwcio. Fe fydd y sioe yn teithio i Bowys, Sir Fynwy, Bro Morgannwg, Penybont-ar-Ogwr a Thorfaen, felly plîs dewch yn ôl yn fuan am fwy o fanylion.
Dyddiadau wedi'u cadarnhau hyd yn hyn:
Dydd Sadwrn 22 Chwefror: Gwyl Llenyddiaeth Plant Penybont
11yb, Llyfrgell Maesteg / 2yh, Llyfrgell Pencoed
Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen
Dydd Llun 24 Chwefror: Gwyl Llenyddiaeth Plant Penybont
11yb, Llyfrgell Pyle / 2yh, Llyfrgell Penybont-ar-Ogwr (y ddwy gyda chyfieithiad BSL)
Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen
Dydd Mercher 26 Chwefror: Gwyl Llenyddiaeth Plant Penybont
11yb, Llyfrgell Porthcawl / 2yh, Llyfrgell Sarn
Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen